Chief Digital and Information Officer

Cardiff University

Employer of the Week
  • Location
    Cardiff
  • Salary
    Competitive
  • Closing Date
    29 April 2024
  • Remaining Time
  • Apply Online
Cardiff University was established in 1883. Our motto, Gwirionedd, Undod a Chytgord - ‘Truth, Unity and Concord’ - sets out our founding commitment to work together to make a positive and lasting difference to our communities and continues to express our commitment today. We are one of the largest universities in the UK and a member of the Russell Group. Our vision is to be a world-leading, research-excellent, and educationally outstanding global university with a transformative social, cultural and economic impact for Cardiff, Wales, the UK and the world. We are firmly grounded in our sense of place. As the largest university in Wales – and a major employer, with more than 7,000 staff – we work with society, industry and government to help overcome the most urgent challenges of our times.
   
Now is an exciting time to join the university, following the recent arrival of our new Vice-Chancellor, Professor Wendy Larner who took up her position in September 2023. The first woman in the history of Cardiff University to hold this position, Professor Larner’s leadership marks the start of a new phase of strategic development for the University.   

We are now seeking to appoint an exceptional leader to the role of Chief Digital and Information Officer. Reporting directly into the Chief Operating Officer and working closely with the Chief Transformation Officer, the post holder will be a key member of the University Executive Board, playing a key role in shaping the conversations around the use of digital technologies, ensuring that we are positioned to address the changing needs of our academic community and students, take advantage of opportunities to improve our organisational processes and ensure that our information systems and technology are fit for purpose and robust enough to head off existing and emerging cyber-security and digital risks.

Candidates will need to demonstrate significant senior digital leadership experience with a proven track record of leading technology functions with an emphasis on strategic innovation, attainment and success gained in a comparable university or other organisation of comparable size and complexity. You will also have a proven track record as a delivery leader, delivering and implementing successful organisation wide IT and Digital change programmes. 

For further details, including a job description, person specification and information on how to apply, please visit https://candidates.perrettlaver.com/vacancies/ quoting reference 7268. 

The closing date for applications is at 9am BST on Monday 29th April 2024.  
Location: Cardiff  

Salary: Cardiff University will offer an attractive salary, commensurate with experience, for a highly talented postholder in this role. Cardiff offers 37 days per annum of annual leave, and a USS pension. Relocation expenses (up to a maximum of £8,000) will be available for candidates moving to Cardiff.  

Cardiff University is committed to supporting and promoting equality and diversity and to creating an inclusive working environment. We believe this can be achieved through attracting, developing, and retaining a diverse range of staff from many different backgrounds.  We therefore welcome applicants from all sections of the community regardless of sex, ethnicity, disability, sexual orientation, trans identity, relationship status, religion or belief, caring responsibilities, or age.

Protecting your personal data is of the utmost importance to Perrett Laver and we take this responsibility very seriously. Any information obtained by our trading divisions is held and processed in accordance with the relevant data protection legislation. The data you provide us with is securely stored on our computerised database and transferred to our clients for the purposes of presenting you as a candidate and/or considering your suitability for a role you have registered interest in.  

As defined under the General Data Protection Regulation (GDPR) Perrett Laver is a Data Controller and a Data Processor, and our legal basis for processing your personal data is ‘Legitimate Interests’. You have the right to object to us processing your data in this way. For more information about this, your rights, and our approach to Data Protection and Privacy, please visit our website http://www.perrettlaver.com/information/privacy. Please visit the following link in order to find more information about the use of personal information provided by candidates to the university: https://www.cardiff.ac.uk/public-information/policies-and-procedures/data-protection   

Sefydlwyd Prifysgol Caerdydd ym 1883. Mae ein harwyddair, sef ‘Gwirionedd, Undod a Chytgord’ yn mynegi ein hymrwymiad sylfaenol i gydweithio i wneud gwahaniaeth parhaol ac er gwell i'n cymunedau, a pharhau y mae’r Brifysgol i gyfleu’r ymrwymiad 

hwnnw heddiw. Rydym yn un o'r prifysgolion mwyaf yn y DU ac yn aelod o Grŵp Russell. Ein gweledigaeth yw bod yn brifysgol sy’n arwain y byd, yn rhagorol ein hymchwil ac yn odidog ein haddysg, yn ogystal â chael effaith drawsnewidiol ar gyfer Caerdydd, Cymru, y DU a'r byd. Rydym wedi ein gwreiddio'n gadarn yn ein hymdeimlad o le. A ninnau’r brifysgol fwyaf yng Nghymru – ac yn gyflogwr o bwys sydd â mwy na 7,000 o staff – rydym yn gweithio gyda’r gymdeithas, gyda byd diwydiant a chyda'r llywodraeth i helpu i oresgyn heriau mwyaf taer ein hoes.
   
Dyma amser cyffrous i ymuno â’r Brifysgol, yn dilyn penodiad diweddar yr Is-ganghellor newydd, yr Athro Wendy Larner, a ddechreuodd yn ei swydd ym mis Medi 2023. Yr Athro Larner yw’r fenyw gyntaf yn hanes Prifysgol Caerdydd i ddal y swydd hon, ac mae ei harweinyddiaeth yn cyd-fynd â chyfnod newydd o ddatblygiad strategol yn y Brifysgol.   

Rydym nawr am benodi arweinydd eithriadol i rôl y Prif Swyddog Gweithrediadau Digidol a Gwybodaeth. Gan adrodd yn uniongyrchol i’r Prif Swyddog Gweithredu a gweithio’n agos gyda’r Prif Swyddog Trawsnewid, bydd deiliad y swydd yn aelod allweddol o Fwrdd Gweithredol y Brifysgol, gan chwarae rhan allweddol wrth lunio’r sgyrsiau ynghylch defnyddio technolegau digidol, gan sicrhau ein bod mewn sefyllfa i fynd i’r afael ag anghenion newidiol ein cymuned academaidd a’n myfyrwyr, manteisio ar gyfleoedd i wella ein prosesau sefydliadol a sicrhau bod ein systemau gwybodaeth a thechnoleg yn addas i’r diben ac yn ddigon cadarn i atal risgiau digidol a seiberddiogelwch sy’n bodoli eisoes a rhai sy’n dod i’r amlwg.

Bydd angen i ymgeiswyr arddangos profiad sylweddol o fod mewn rôl uwch ym maes arweinyddiaeth ddigidol, gyda hanes diamheuol o arwain ar swyddogaethau technoleg blaenllaw gyda phwyslais ar arloesedd strategol, cyrhaeddiad a llwyddiant a gafwyd mewn prifysgol neu sefydliad arall o faint a chymhlethdod cymharol. Bydd gennych hefyd hanes diamheuol o fod yn arweinydd sy’n cyflawni, gan gyflwyno a gweithredu rhaglenni newid TG a Digidol llwyddiannus ledled y sefydliad. 

Mae rhagor o fanylion, gan gynnwys disgrifiad o'r swydd, manyleb y person a gwybodaeth am sut i wneud cais ar gael drwy fynd i https://candidates.perrettlaver.com/vacancies, gan roi’r cyfeirnod 7268. 

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 9am BST Dydd Llun 29 Ebrill 2024.  
Lleoliad: Caerdydd  

Cyflog: Bydd Prifysgol Caerdydd yn cynnig cyflog deniadol sy’n gyfatebol i brofiad ar gyfer deiliad swydd hynod dalentog yn y rôl hon. Mae Caerdydd yn cynnig 37 diwrnod y flwyddyn o wyliau blynyddol, a phensiwn USS. Bydd treuliau adleoli (hyd at £8,000 ar y mwyaf) ar gael i ymgeiswyr sy’n symud i Gaerdydd.  

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gynorthwyo a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac i greu amgylchedd gwaith cynhwysol. Rydym o’r farn y gellir gwneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o lawer o gefndiroedd gwahanol.  Felly, rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr o bob rhan o’r gymuned, ni waeth beth y fo’u rhyw, eu hethnigrwydd, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hunaniaeth draws, statws eu perthynas, eu crefydd neu eu cred, eu cyfrifoldebau gofalu neu eu hoedran.

Mae diogelu eich data personol o’r pwys mwyaf i Perrett Laver, ac rydym yn cymryd y cyfrifoldeb hwn o ddifrif calon. Mae unrhyw wybodaeth sy’n dod i law ein his-adrannau masnachu’n cael ei chadw a'i phrosesu’n unol â’r ddeddfwriaeth diogelu data berthnasol. Mae’r data y byddwch yn ei roi inni yn cael ei gadw’n ddiogel yn ein cronfa ddata gyfrifiadurol a’i drosglwyddo i'n cleientiaid er mwyn eich cyflwyno’n ymgeisydd a/neu ystyried eich addasrwydd ar gyfer y rôl yr ydych wedi mynegi diddordeb ynddi.  

Fel y'i diffinnir yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), mae Perrett Laver yn Rheolydd Data ac yn Brosesydd Data, a ‘Buddiannau Dilys’ yw ein sail gyfreithiol dros brosesu eich data personol. Mae gennych yr hawl i wrthwynebu ein bod yn prosesu eich data fel hyn. I gael rhagor o wybodaeth am hyn, eich hawliau a sut rydym yn sicrhau Diogelwch a Phreifatrwydd Data, ewch i’n gwefan http://www.perrettlaver.com/information/privacy. I gael rhagor o wybodaeth am sut y defnyddir y wybodaeth bersonol y bydd ymgeiswyr yn ei chyflwyno i'r brifysgol, ewch i: https://www.cardiff.ac.uk/public-information/policies-and-procedures/data-protection   
PLEASE NOTE: We strongly recommend that you do not provide your bank account details when applying for a job. If you see a vacancy on Diversity Jobsite requesting bank account details please email webmaster@diversityjobsite.co.uk